SL(5)372 - Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cynllun Esgeuluster Clinigol) (Cymru) 2019

Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau yn sefydlu’r Cynllun Esgeuluster Clinigol ar gyfer Ymddiriedolaethau’r GIG a Byrddau Iechyd Lleol i ddarparu ar gyfer yr holl atebolrwyddau cymhwysol, o 1 Ebrill 2019, sef atebolrwyddau contractiol ac atebolrwyddau mewn camwedd.    

Mae’r indemniad a ddarperir fel rhan o’r Cynllun yn cwmpasu atebolrwyddau esgeuluster clinigol aelodau (Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG) yn ogystal ag atebolrwyddau contractwyr nad ydynt yn aelodau sy’n darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol yn rhinwedd trefniant gydag aelod o’r Cynllun (e.e. contract gwasanaethau meddygol cyffredinol).

Mae’r Cynllun yn gymwys o 1 Ebrill 2019 mewn perthynas â’r holl atebolrwyddau o fewn ei gwmpas. Golyga hyn, o’r dyddiad hwnnw, y cwmpesir aelodau a chontractwyr o dan y Cynllun yn awtomatig mewn perthynas ag atebolrwyddau o’r fath.

Gweithdrefn

Negyddol.

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu

Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

Mae’r Rheoliadau hyn yn cyflwyno cynllun a gefnogir gan y wladwriaeth i ddarparu indemniad esgeuluster clinigol i ddarparwyr gwasanaethau meddygol cyffredinol. Bydd y cynllun yn cwmpasu pob ymarferydd cyffredinol contractiol a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill sy’n gweithio ym maes meddygol cyffredinol y GIG.

Mae’r Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau hyn yn nodi, ym mharagraff 6:

“A Regulatory Impact Assessment has not been prepared for this instrument as it imposes no costs or no savings, or negligible costs or savings on the public, private or charities and voluntary sectors.”

O ystyried arwyddocâd y Rheoliadau hyn, byddem yn croesawu eglurhad gan Lywodraeth Cymru ynghylch pam na chynhaliwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol (ac ar ba eithriad yng “Nghod Asesiad Effaith Rheoleiddiol Gweinidogion Cymru ar gyfer Is-ddeddfwriaeth” y mae Llywodraeth Cymru yn dibynnu i beidio â chynnal Asesiad Effaith Rheoleiddiol).

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Ymateb i’r pwynt Craffu ar Rinweddau yn unol â Rheol Sefydlog 21.3(ii) sy’n ceisio eglurhad o ran pam na chynhaliwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol.

1. Ystyriaethau Polisi

1.1 Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 14 Mai 2018 y byddai Llywodraeth Cymru yn cyflwyno o 1 Ebrill 2019 gynllun wedi ei gefnogi gan y wladwriaeth i ddarparu Indemniad Esgeuluster Clinigol ar gyfer darparwyr gwasanaethau ymarferwyr cyffredinol yng Nghymru (h.y. ar gyfer gwaith y GIG). Croesawyd y cyhoeddiad a’i gefnogi gan Bwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru a bwysleisiodd yn benodol fod cyflwyno’r Cynllun yn gam pwysig tuag at wneud ymarfer meddygol yng Nghymru yn fwy cynaliadwy drwy fynd i’r afael â’r pwysau sylweddol o ran costau ar ymarferwyr cyffredinol, o ystyried y ffaith bod costau sy’n gysylltiedig â phremiymau indemniad ymarferwyr cyffredinol yn tueddu i gynyddu. Byddai cyflwyno’r Cynllun yn gyson cyn belled â phosibl â’r cynllun wedi ei gefnogi gan y wladwriaeth a gyhoeddwyd ar gyfer ymarferwyr cyffredinol yn Lloegr y bwriedid iddo ddod i rym ar 1 Ebrill 2019 hefyd.

1.2 Bydd y Cynllun yn adeiladu ar y sicrwydd indemniad presennol wedi ei gefnogi gan y wladwriaeth a ddarperir ar gyfer gofal eilaidd a gwasanaethau ymarferwyr cyffredinol y tu allan i oriau o fewn GIG Cymru.

1.3 Yn dilyn y cyhoeddiad hwn, ymgysylltwyd yn helaeth ag ymarferwyr cyffredinol, y tri sefydliad amddiffyn meddygol yn y DU, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, GIG Cymru gan gynnwys y Byrddau Iechyd, Cyfarwyddwyr Gofal Sylfaenol, Cyfarwyddwyr Cyswllt Meddygol, Cyfarwyddwyr Cyllid, Cyfarwyddwyr Nyrsio a Rheolwyr Practisau Ymarferwyr Cyffredinol. Yn benodol mae Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid wedi ei sefydlu fel fforwm ar gyfer trafod a gwella cynigion i gyflawni’r Cynllun yn ogystal â sicrhau bod rhanddeiliaid allweddol wedi cael diweddariadau clir ac wedi eu hysbysu am ddatblygiadau allweddol. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol i sicrhau bod Cynlluniau Cymru a Lloegr yn gyson pan fo’n bosibl. Nid yw’r cynllun wedi ei gefnogi gan y wladwriaeth ar gyfer Indemniad Proffesiynol Ymarferwyr Cyffredinol yn cael unrhyw effaith ar y sector gwirfoddol nac ar lywodraeth leol.

1.4 Rhyddhawyd dau ddatganiad ysgrifenedig pellach hefyd gan y Gweinidog ar 15 Tachwedd 2018 a 6 Chwefror 2019 a oedd yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y cynllun i Gymru sydd wedi ei gefnogi gan y wladwriaeth.

2. Gofyniad Proffesiynol am Indemniad Esgeuluster Clinigol

2.1 Mae sicrwydd esgeuluster clinigol yn amod cofrestru yn y DU ar gyfer pob proffesiynolyn gofal iechyd rheoleiddiedig, ac yn achos ymarferwyr meddygol, yn amod i gael trwydded o dan adran 44C o Ddeddf Feddygol 1983. Felly, mae’n ofynnol i broffesiynolion gofal iechyd feddu ar sicrwydd indemniad esgeuluster clinigol priodol i dalu am gostau hawliadau ac iawndal a ddyfernir i gleifion sy’n deillio o esgeuluster.  Gall y sicrwydd fod yn bolisi yswiriant, yn drefniant indemniad, neu’n gyfuniad o’r ddau.

 

3. Effaith Ariannol y Cynllun

3.1 Mae effaith ariannol cyflawni’r Cynllun wedi ei hasesu gan Gyllid y GIG a Chyllidebu Strategol Llywodraeth Cymru. Mae’r cyngor actiwaraidd a’r dadansoddiad o gostau wedi eu darparu gan Pricewaterhouse Coopers ynghyd â throsolwg a ddarparwyd gan Adran Actiwaraidd y Llywodraeth. Ni ellir rhyddhau manylion yr asesiad ariannol gan eu bod yn ddarostyngedig i gytundebau peidio â datgelu â’r tri sefydliad amddiffyn meddygol.

3.2 Rhaid pwysleisio na ellir cyhoeddi’r holl wybodaeth ariannol gan gynnwys y dadansoddiad o gostau ac opsiynau oherwydd ei natur hynod gyfrinachol a masnachol sensitif ac oherwydd ei bod wedi ei rhwymo gan gytundebau peidio â datgelu. 

3.3 Caiff y Cynllun ei gyllido drwy’r gyllideb bresennol a bydd yn niwtral o ran costau i aelodau a chontractwyr sydd wedi eu hyswirio o dan y Cynllun.

3.4 Ni fydd y Cynllun yn cael unrhyw effaith ariannol ar y sector cyhoeddus na’r sector gwirfoddol.

3.5 Bydd y Cynllun yn cael effaith ariannol sy’n niwtral fwy neu lai ar sefydliadau amddiffyn meddygol gan mai Llywodraeth Cymru a fydd yn gyfrifol am unrhyw atebolrwyddau yn y dyfodol ac y caiff premiymau indemniad ymarferwyr cyffredinol a ddarperir gan y sefydliadau amddiffyn meddygol eu haddasu i adlewyrchu’r ffaith bod yr hawliadau esgeuluster clinigol ar gyfer gwaith y GIG yn cael eu dileu. Ceir yr effaith gyffredinol hon ar gyfer gweithgarwch Cymru yng nghyd-destun cyfran marchnad Cymru (3%) o gyfanswm y farchnad amddiffyn meddygol yn y DU.

4. Cynaliadwyedd yn y Tymor Hwy

4.1 Bydd y Cynllun yn darparu datrysiad cynaliadwy yn y tymor hwy i fynd i’r afael â chostau cynyddol sicrwydd indemniad meddygol. Ymhellach, bydd y Cynllun yn helpu i sicrhau y caiff ymarferwyr cyffredinol eu recriwtio’n barhaus ac na fydd cynlluniau gwahanol sy’n gweithredu yng Nghymru a Lloegr yn effeithio ar weithgarwch trawsffiniol Cymru a Lloegr.

5. Eithriad i’r angen am Asesiad Effaith Rheoleiddiol 

5.1 Nid oes effaith fawr ar bolisi gan ei fod yn ofyniad presennol i ymarferwyr cyffredinol feddu ar sicrwydd esgeuluster clinigol fel y’i nodir yn 2.1. Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer dull o roi sicrwydd indemniad ar gyfer ymarferwyr cyffredinol am waith y GIG ac yn alinio ag indemniad presennol gofal eilaidd ac ymarferwyr cyffredinol y tu allan i oriau GIG Cymru sydd wedi ei gefnogi gan y wladwriaeth.

Trafodaeth y Pwyllgor

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, ynghyd ag ymateb y Llywodraeth, yn ei gyfarfod ar 18 Mawrth 2019 ac mae'n cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd rhinweddau uchod.